Ezekiel 17

Stori'r ddau Eryr a'r Winwydden

1Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 2“Ddyn, dyma bos i ti ei rannu gyda phobl Israel. Stori iddyn nhw. 3Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud:

‘Eryr mawr a'i adenydd enfawr
a'i blu hirion ar eu blaenau.
Daeth eryr a'i wisg amryliw
draw i Libanus.
Pigo coron y goeden gedrwydd
4a thorri ei brigyn uchaf.
Ei gario i ffwrdd i wlad masnachwyr,
a'i blannu yn ninas y farchnad.
5Cymerodd un o hadau'r wlad
a'i blannu mewn pridd da,
yn sbrigyn wedi ei osod ar lan y dŵr
fel coeden helygen.
6Blagurodd, a throi yn winwydden
yn tyfu a lledu'n isel.
Roedd ei gwreiddiau oddi tanodd
a'i changhennau'n ymestyn at yr eryr.
Tyfodd ei changhennau
a daeth dail ar ei brigau.
7Ond roedd eryr mawr arall,
gydag adenydd enfawr
a thrwch o blu hardd.
A dyma'r winwydden
yn troi ei gwreiddiau at hwnnw,
ac yn ymestyn ei changhennau ato
i gael ei dyfrio ganddo.
8Roedd wedi ei phlannu mewn pridd da
ar lan digonedd o ddŵr,
i'w changhennau ledu
ac i ffrwyth dyfu arni,
yn winwydden hardd.’

9Ond dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud:

‘Fydd hi'n llwyddo?
Na – bydd yr eryr yn ei chodi o'r gwraidd,
yn tynnu ei ffrwyth oddi arni,
a'i gadael i bydru.
Bydd ei dail ir yn gwywo.
Fydd dim angen byddin fawr gref
i dynnu ei gwreiddiau o'r pridd.
10Ar ôl ei thrawsblannu, fydd hi'n llwyddo?
Na – bydd gwynt poeth y dwyrain yn chwythu
a bydd hi'n crino'n llwyr.
Bydd hi'n gwywo yn y tir lle tyfodd!’”

Esbonio'r stori

11Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 12“Dywed wrth rebeliaid anufudd Israel: ‘Does gynnoch chi ddim syniad am beth dw i'n sôn, nac oes?’ Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma'r ystyr. Daeth brenin Babilon i Jerwsalem a chymryd brenin Jwda
17:12 brenin Jwda y Brenin Jehoiachin (gw. 2 Brenhinoedd 24:10-12,15,16).
a'i swyddogion yn garcharorion i Babilon.
13Wedyn dyma frenin Babilon yn gwneud cytundeb gydag un o deulu brenhinol Jwda, a'i gael i addo ar lw y byddai'n ufudd iddo. A gwnaeth yr un peth gyda rhai o bobl fawr y wlad. 14Roedd eisiau cadw'r wlad yn wan, a gwneud yn siŵr na fyddai hi'n gwrthryfela yn ei erbyn. Os oedd hi am gadw ei hunaniaeth, byddai'n rhaid iddi gadw amodau'r cytundeb. 15Ond dyma'r un wnaeth y cytundeb yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon drwy anfon ei lysgenhadon i'r Aifft i ofyn am geffylau rhyfel a byddin fawr. b Fydd e'n llwyddo? Ydy e'n mynd i allu torri'r cytundeb ac osgoi cael ei gosbi? 16Na, bydd e'n cael ei ladd. Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Arglwydd, ‘bydd e'n marw yn Babilon, gwlad y brenin wnaeth y cytundeb gydag e yn y lle cyntaf a gadael iddo lywodraethu. 17Fydd y Pharo gyda'i fyddin fawr a'i holl rym milwrol ddim help o gwbl pan fydd Babilon yn ymosod ar Jerwsalem eto ac yn codi rampiau a thyrau gwarchae yn ei herbyn. Bydd lot fawr o bobl yn cael eu lladd. 18Roedd e wedi gwneud cytundeb ar lw ac yna ei dorri; addo bod yn ufudd ac yna torri ei air. Gwylia di, fydd e ddim yn dianc!’

19“Felly dyma mae'r Arglwydd, y Meistr yn ei ddweud: ‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, dw i'n mynd i'w gosbi e am dorri ei ymrwymiad i mi a'r cytundeb wnaeth e o'm blaen i. 20Bydd e'n cael ei ddal. Bydda i'n taflu fy rhwyd drosto a mynd ag e'n gaeth i Babilon, a bydda i'n ei farnu yno am iddo fy mradychu i. 21Bydd ei filwyr gorau yn cael eu lladd yn y rhyfel, a'r gweddill yn cael eu gwasgaru i bob cyfeiriad. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r Arglwydd sy'n dweud beth sydd i ddod.’

Y Goeden Newydd

22“Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i gymryd sbrigyn o ben uchaf y goeden gedrwydd; bydda i'n ei bigo o goron y goeden, a'i blannu ar ben mynydd uchel. 23Bydda i'n ei blannu ar fynydd uchaf Israel. Bydd yn tyfu'n goeden gedrwydd hardd ffrwythlon, a bydd adar o bob math yn nythu ynddi ac yn cysgodi dan ei changhennau. 24Bydd pob coeden yng nghefn gwlad yn cydnabod mai fi ydy'r Arglwydd. Fi sy'n gwneud y goeden fawr yn fach a'r goeden fach yn fawr. Fi sy'n gwneud i goeden ir grino, ac i goeden farw flaguro eto. Fi ydy'r Arglwydd, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd!’”

Copyright information for CYM